I Artistiaid
Mae Tŷ Cyhoeddi yn comisiynu ac yn talu darlunwyr a dylunwyr i greu cardiau cyfarch cyfoes yn y Gymraeg.
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan dalent greadigol, boed yn newydd neu’n brofiadol. Ein rôl ni yw eich cefnogi: mireinio syniadau, talu’n deg, a sicrhau bod eich gwaith yn cyrraedd siopau annibynnol Cymru. Gallwch chi ganolbwyntio ar y broses greadigol, tra byddwn ni’n cymryd cyfrifoldeb o bopeth arall.
Os oes gennych ddiddordeb cydweithio efo ni, cysylltwch drwy e-bost.
Noder:
-
Mae croeso i chi rannu enghreifftiau o’ch gwaith gyda ni ond gofynnwn amdanynt ar ffurf ffeiliau cydraniad isel. Byddwn yn gofyn am ffeiliau cydraniad uchel os bydd angen.
-
Ni allwn ddychwelyd ffeiliau.
-
Mae pob hawl yn parhau gyda chi hyd nes y caiff gwaith ei gomisiynu’n ffurfiol.
Awydd sgwrs? E-bost: helo@tycyhoeddi.cymru